Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Medi 2021
Amser:
13.32 -
16.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12420
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sioned Williams AS Jack Sargeant AS Vikki Howells AS |
Tystion: |
Jason Roberts, SpeakEasy Cymru Peter Tutton, StepChange Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Gwennan Hardy, Uwch swyddog polisi, Citizens Advice Bureau Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jo Salway, Llywodraeth Cymru Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhys Morgan (Clerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Vikki Howells AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Murphy AS ac roedd Ken Skates AS, Jack Sargeant AS a Vikki Howells AS yn bresennol fel dirprwyon. Nid oedd buddiannau i’w datgan.
2 Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch y pwyntiau a ganlyn:
· Ailsefydlu ffoaduriaid o Affganistan yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y nifer y mae angen eu cartrefu, y math o lety sydd wedi’i sicrhau a’r gwasanaethau cymorth a gaiff eu darparu.
· Hynt y cynlluniau i sefydlu canolfan breswyl arfaethedig i ferched yng Nghymru.
· Canlyniadau neu hynt y trafodaethau ar gyllidebu ar sail rhyw.
3 Dyled a'r pandemig - Sefydliadau cynghori
3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r pandemig.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Adroddiad Gwaddol Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd, Mawrth 2021
4.1a Nododd yr Aelodau yr adroddiad.
4.2 Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch gwaith Archwilio Cymru - 9 Gorffennaf 2021
4.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.3 Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch amserlen y pwyllgorau - 14 Gorffennaf 2021
4.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pob Pwyllgor ynglŷn â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru - 16 Gorffennaf 2021
4.4a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.5 Adroddiad Gweithdy Cwsmeriaid Bregus Dŵr Cymru - 25 Mawrth 2021
4.5a Nododd yr Aelodau yr adroddiad.
4.6 Gohebiaeth gan Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg at y Cadeirydd ynghylch ystyried y Gymraeg yng ngwaith y Pwyllgor - 19 Gorffennaf 2021
4.6a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.7 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeiryddion Pwyllgorau ynghylch blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd - 20 Gorffennaf 2021
4.7a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.8 Gohebiaeth gan Gyfarwyddwr RNIB Cymru at Aelodau'r Pwyllgor ynghylch ymchwil ddiweddaraf RNIB i brofiadau pleidleisio pobl ddall a rhannol ddall - 23 Gorffennaf 2021
4.8a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.9 Gohebiaeth gan Victoria Winkler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan at y Cadeirydd ynghylch tlodi plant a diogelu hawliau mudwyr - 23 Gorffennaf 2021
4.9a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.10Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ynghylch codi credyd cynhwysol - 5 Awst 2021
4.10a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.11Gohebiaeth gan Altaf Hussain AS at y Cadeirydd ynghylch yr heriau y mae pobl sy'n colli eu golwg yn eu hwynebu bob dydd yng Nghymru - 11 Awst 2021
4.11a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.12Gohebiaeth gan Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cymru at y Cadeirydd ynghylch anghenion pobl ifanc yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu - 1 Medi 2021
4.12a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
4.13Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr argyfwng dyngarol yn Affganistan - 10 Medi 2021
4.13a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ystyried y dystiolaeth - sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gyflwynwyd o dan eitem 2 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog.
7 Trafod y dystiolaeth - sefydliadau sy'n rhoi cyngor ynghylch dyledion
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.
8 Ystyried papur cwmpasu ar ofal plant a chyflogaeth rhieni
8.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar ofal plant a chyflogaeth rhieni ac, yn amodol ar fân newidiadau, byddant yn cytuno ar y papur yn electronig.